Ymweliad dan-ddaear

Darganfyddwch y byd dan-ddaear llawn lleoedd chwarae o harddwch naturiol sy’n ysu i gael eu harchwilio!
 
 
Gallwch ffeindio lleoedd chwarae o harddwch naturiol yn y Bannau, wedi eu cuddio o’r golwg… Mae’r ogofâu a’r pyllau glo sydd o dan y bryniau yn aros i gael eu harchwilio!
 

Ogofâu Arddangos Cenedlaethol Dan-yr-Ogof

Os ydych yn chwilio am gyflwyniad ysbrydoledig i fod dan-ddaear, Canolfan Ogofâu Arddangos Cenedlaethol Dan-yr-Ogof,yw’r lle gorau i gychwyn, yn archwilio ffurfiant creigiau gan gynnwys ogofâu wedi eu goleuo’n hardd.


Amgueddfa Lofaol Genedlaethol Big Pit

Os dymunwch gloddio mewn i orffennol diwydiannol cyfoethog De Cymru, yna mae Amgueddfa Lofaol Genedlaethol Big Pit wrth ddrws y Parc, mae’n cynnig taith dan-ddaear i’r pyllau glo a pheidiwch ag anghofio cadw amser ar gyfer King Coal: Profiad y Pyllau Glo drwy ddarganfod y stori o sut datblygodd diwydiant glofaol Cymru.

Taith dan arweiniad ar gyfer Ymweliad dan-ddaear

Eleni, am y tro cyntaf, rydym yn cynnig cyfle unigryw i chi fod yn rhan o ymweliad dan-ddaear. Mae yna deithiau tywys hanner diwrnod ar gael er mwyn ymweld â rhai o’r systemau ogofâu anhygoel sydd o dan ein traed.
Mae’r teithiau tywys yn gadael am 10.00 y bore ac am 13.30 y prynhawn ac maent ar gael ar y dyddiadau canlynol :
  • Ebrill 2  
  • Mai 31
  • Mehefin 2  
  • Mehefin 19
  • Gorffennaf 3
  • Gorffennaf 21
  • Gorffennaf 30
  • Awst 6
  • Awst 8
  • Awst 28

Gallwch drefnu lle ar un o’r teithiau er mwyn gwario hanner diwrnod dan-ddaear
Bwcio ar-lein yma