Beth sy'n gwneud Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn fan mor arbennig am wyliau?

P'un ai’ch bod yn cynllunio gwyliau prysur, llawn gweithgaredd, taith i ymweld â lleoliadau hanesyddol neu gyfle i ymlacio, mae gan Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ddigon i’w gynnig.

I ni sy'n byw ac edrych ar ôl y Parc Cenedlaethol mae mwy na chysylltiad rhyngom ni a’r parc - mae’r parc yn rhan ohonom ni a ninnau’n rhan o’r parc. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth i barchu’n treftadaeth a mwynhau’n hamgylchedd. Rydym yn sicrhau bod natur a bywyd gwyllt yn ffynnu ac yn eu diogelu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Ac rydym yn falch o'n ffordd nodedig o fyw.

Harddwch naturiol

Mae'r mwyafrif o'n hymwelwyr yn dod yma i fwynhau'r golygfeydd trawiadol. Mae'n cefn gwlad eang, ein dyffrynnoedd a’n bryniau, ein coedwigoedd hardd, gwylltion, ein llynnoedd, rhaeadrau a’n hogofâu i gyd yn cyfrannu at harddwch ac amrywiaeth ein Parc.

Mae’n planhigion ac anifeiliaid yn hynod. Ein parc ni yw un o'r ardaloedd olaf sydd â merlod mynydd Cymreig. Maent yn byw, magu a charlamu’n wyllt dros ein hucheldiroedd geirwon, anghysbell. Mae’r awyr uwchben yn gartref i boblogaeth o farcutiaid a fu unwaith mewn perygl ond sydd, erbyn hyn yn ffynnu. Ein rhostiroedd ni yw cartref mwyaf deheuol y grugiar goch ym Mhrydain. Mae poblogaeth fagu fwyaf Prydain o’r ystlum pedol lleiaf yn Nyffryn Wysg ac mae ein glaswelltiroedd a’n coetiroedd yn gartref i lawer o rywogaethau o ffyngau, mwsoglau, gweiriau, blodau a choed, a rhai ohonynt yn unigryw i'r ardal.

Archeoleg sy’n ysbrydoli

Gallech feddwl bod tirwedd Bannau Brycheiniog yn naturiol a digyfnewid, ond mewn gwirionedd mae pobl wedi’i lunio a’i newid dros filoedd o flynyddoedd. Heb weithgarwch pobl, ni fyddai’r Parc y lle hardd, amrywiol sydd gennym heddiw.

Gallwn weld gwaddol pobloedd y gorffennol yn ein treftadaeth archeolegol gyfoethog a'n hadeiladau a’n haneddiadau hanesyddol. Mae dros 250 o henebion gan gynnwys safleoedd cynhanesyddol a Rhufeinig, cylchoedd cerrig, siambrau claddu, bryngaerau a gwersylloedd o fewn ffiniau’r Parc Cenedlaethol. Mae’n bryniau a'n pentrefi hefyd yn frith o gestyll canoloesol, eglwysi hynafol a gweddillion i’n hatgoffa o’n treftadaeth ddiwydiannol. Am ragor o wybodaeth, ewch i Places to visit.

Mae wyth o safleoedd sydd ar Gofrestr Cadw o Dirweddau o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig yng Nghymru yn gorwedd, yn rhannol o leiaf, o fewn ffiniau Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae'r rhain yn cynnwys y Mynydd Du a Mynydd Myddfai, Canol Dyffryn Gwy, Dwyrain Fforest Fawr a Mynydd-y-Glôg a Chanol Dyffryn Wysg.

Archeoleg sy’n adrodd ein hanes

Mae treftadaeth adeiledig Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn cyfrannu at wneud hwn yn lle arbennig ac unigryw. Mae ein hadeiladau gwledig cain a’n trefluniau hanesyddol yn dystiolaeth o'n hetifeddiaeth ddiwylliannol bwysig ac yn ffenestr unigryw i’r gorffennol. Gallwn weld hen dechnegau adeiladu, sut oedd bywyd bob dydd ein cyndeidiau a sut mae ffasiynau ac arddulliau wedi newid.

Yn aml mae adeiladau hanesyddol wrth galon ein cymunedau ac maent yn cyfrannu at gymeriad lleol a'n hymdeimlad o’n hunaniaeth; maent hefyd yn arddangos crefftau a sgiliau lleol a thraddodiadol a all fod yn marw heddiw. Mae miloedd o adeiladau pensaernïol arwyddocaol yn y parc, bron i 2000 o ohonynt wedi’u rhestru.

Diwylliant cyfoes a syniadau gwyrdd

Mae ‘na bob amser ddigon yn mynd ymlaen ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, o ŵyl lenyddiaeth a chelfyddydau fyd enwog y Gelli a Gŵyl Jazz Aberhonddu i fyd y bwyd ‘gourmet’ mae’r ardal mor enwog amdano. Am ragor o wybodaeth, ewch i Things to enjoya Events.

Mae’n hardal hefyd yn prysur gael ei hadnabod fel cyrchfan werdd. Mae'n hawdd teimlo'n dda ym Mannau Brycheiniog drwy gefnogi’n cwmnïau llety a gweithgareddau ecogyfeillgar, neu leihau eich ôl troed carbon drwy ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus am ddiwrnod. Am ragor o fanylion, ewch i Greenthinking .Greenthinking.

 ©  Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog Golygydd cyfrannol: Emma GreggEmma Gregg