Gŵyl adrodd straeon yn y Parc Gwledig ar ddydd Sadwrn 16 Medi. £5 i oedolion, plant am ddim. Diwrnod a noson o adrodd straeon, cerddoriaeth, celf, syrcas a chrefftau ac awyrgylch wych ar gyfer y teulu cyfan wedi’i leoli yng ngerddi hanesyddol Parc Gwledig Craig-y-nos, a oedd unwaith yn gartref i’r gantores opera byd enwog, Adelina Patti. Dewch i glywed chwedlau lleol, hanesion hudol, straeon hanesyddol a chaneuon yn adrodd hen hanesion a straeon cyfoes.